Datganiad hygyrchedd ar gyfer HMCTS Access
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn esbonio pa mor hygyrch yw’r wefan hon, beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth ei defnyddio, a sut i riportio problemau hygyrchedd gyda'r wefan.
Mae'r wefan hon yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK.
Mae'r dudalen hon ond yn cynnwys gwybodaeth am wasanaeth HMCTS Access, sydd ar gael yn https://hmcts-access.service.gov.uk. Nid yw’n cynnwys y gwasanaethau hynny y ceir mynediad atynt drwy fewngofnodi i HMCTS Access.
Darperir HMCTS Access gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM i alluogi defnyddwyr i fewngofnodi'n ddiogel i wasanaethau Sifil, Teulu a Thribiwnlysoedd ar-lein.
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM sy’n gyfrifol am y wefan hon. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r gwasanaeth hwn. Golyga hyn y dylech allu:
- newid y lliwiau, y lefelau cyferbyniad a’r ffontiau
- gwneud y testun hyd at 300% yn fwy heb iddo ddiflannu oddi ar y sgrin
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau ein bod wedi defnyddio iaith syml ar y wefan fel bod modd ei ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 safon AA.’’
Nid oes unrhyw faterion hygyrchedd hysbys o fewn y gwasanaeth hwn.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes arnoch angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat arall megis ar ffurf PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille; gallwch:
- e-bostio: HMCTSforms@justice.gov.uk
- Ffonio +44 (0) 300 123 1711.
- cysylltu â'ch cynrychiolydd gwasanaeth
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.
Riportio problemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym wastad yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn canfod unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u cynnwys ar y dudalen hon, neu’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion o ran hygyrchedd:
- e-bostiwch: customer.service@justice.gov.uk
- ffoniwch: +44 (0) 300 123 1711
Y Weithdrefn Orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Os nad ydych chi’n fodlon gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid negeseuon testun ar gyfer pobl byddar, pobl sydd â nam ar eu clyw a phobl sydd â nam ar eu lleferydd.
Mae yna ddolenni sain yn ein swyddfeydd a’n tribiwnlysoedd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar eich cyfer. Gallwch hefyd ofyn am fynediad di-gam neu gyfieithydd iaith dramor.
Os oes gennych gwestiwn am hygyrchedd yn ein lleoliadau Tribiwnlys, gallwch gysylltu â llinell ymholiadau'r Tribiwnlys Haen Gyntaf: +44 (0) 300 123 1711. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer llysoedd a thribiwnlysoedd yma.
Gallwch hefyd gysylltu â chynrychiolydd eich gwasanaeth i gael rhagor o wybodaeth.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae GLlTEM wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefannau yn hygyrch, a hynny yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Gyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 safon AA.’’
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwasanaethau’n hygyrch i’n holl ddefnyddwyr a’u bod yn cydymffurfio â lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe – WCAG 2.1.
Rydym yn cynnal profion hygyrchedd awtomataidd yn barhaus fel rhan o'n harferion datblygu. Mae hyn yn ein helpu i ddatrys problemau cyn i ni lansio tudalennau neu nodweddion newydd.
Mae'r wefan hon hefyd wedi'i phrofi gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC) yn erbyn safonau WCAG 2.1.
Er mwyn rhoi adolygiad mwy cywir o'r gwasanaeth, mae’r tîm DAC yn defnyddio dwy broses brofi wahanol.
Mae'r cyntaf yn archwiliad technegol gan ddefnyddio offer awtomataidd ac mae’r ail yn cynnwys tîm ymroddedig o ddefnyddwyr sydd ag anableddau gwahanol yn defnyddio ystod o dechnolegau addasol. Mae'r cyfuniad o adborth goddrychol gan ddefnyddwyr anabl ac archwiliadau technegol cynhwysfawr yn ein galluogi i fesur sut mae'r wefan yn perfformio'n dechnegol ac yn ymarferol, gan gynnig dimensiwn ychwanegol hanfodol i ganlyniadau ein profion na all dulliau eraill o brofi eu darparu.
Drwy ddefnyddio'r tîm profi ar y cyd â gweithdrefn awtomataidd, mae set fwy cywir o ganlyniadau ar gael.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 14 Medi 2021. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 14 Medi 2021.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 27 Awst 2020. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC).
Bu inni ddefnyddio’r dull hwn i benderfynu pa dudalennau i’w profi:
- Rhestrwyd holl siwrnai defnyddwyr sy’n weithredol ar y wefan.
- Cynhwyswyd cyfres o gamau ym mhob siwrnai.
- Bydd pob cam sy’n gysylltiedig â thudalen, cynnwys neu wallau penodol yn cael eu profi.