Telerau ac Amodau
Trwy ddefnyddio’r gwasanaeth hwn rydych yn cytuno i’r telerau defnydd hyn. Mae hyn yn cynnwys y polisi preifatrwydd.
Telerau ac amodau ar gyfer defnyddwyr proffesiynol
Os ydych yn ddefnyddiwr proffesiynol, bydd gofyn i chi gytuno i delerau ac amodau ychwanegol y gwasanaeth ar ôl i chi greu cyfrif MyHMCTS.
Pwy ydym ni
Rheolir y gwasanaeth hwn gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (cyfeirir at y gwasanaeth o hyn ymlaen fel ‘ni’). Dylech wirio’r telerau ac amodau hyn yn rheolaidd. Efallai y byddwn yn eu diweddaru ar unrhyw adeg heb rybudd. Os byddwch yn parhau i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ar ôl i'r telerau ac amodau gael eu newid, ystyrir eich bod wedi cytuno i'r newidiadau.
Gwybodaeth a ddarperir gan y gwasanaeth hwn
Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu gwybodaeth i gefnogi eich hawliad neu'ch cais. Ni allwn roi cyngor cyfreithiol ar achosion unigol. Dylech ateb y cwestiynau yn y gwasanaeth gan ystyried eich amgylchiadau chi a cheisio cyngor cyfreithiol os oes arnoch angen hynny.
Rhannu a storio data
Mae ein polisi preifatrwydd yn egluro lle mae’ch data yn cael ei storio a gyda phwy mae’n cael ei rannu. Mae ein polisi cwcis yn egluro sut mae’r gwasanaeth hwn yn defnyddio ac yn storio cwcis.
Cyfreithiau sy’n berthnasol i’r gwasanaeth hwn
Bydd y defnydd a wnewch o’r gwasanaeth hwn ac unrhyw anghydfod sy’n codi o’i ddefnyddio yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr, gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:
- Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990
- Deddf Diogelu Data 1998 (hyd at 25 Mai 2018)
- Deddf Diogelu Data 2018 (o 25 Mai 2018)
- Rheoliadau Cyffredinol Diogelu Data
- Deddf Galluedd Meddyliol 2005
Sut i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn yn gyfrifol
Mae peryglon yn gysylltiedig â defnyddio cyfrifiadur sy'n cael ei rannu (er enghraifft, mewn llyfrgell) i gael mynediad at y gwasanaeth hwn. Eich cyfrifoldeb chi yw bod yn ymwybodol o’r peryglon hyn ac osgoi defnyddio unrhyw gyfrifiadur lle mae posibilrwydd y gall eraill weld eich gwybodaeth bersonol. Chi sy’n gyfrifol os ydych chi’n dewis gadael cyfrifiadur heb ei ddiogelu tra rydych wedi mewngofnodi i’r gwasanaeth hwn. Mae’n rhaid i chi gymryd camau priodol eich hun i sicrhau nad yw’r ffordd rydych yn cael mynediad at y gwasanaeth hwn yn eich gadael yn agored i’r perygl o:
- firysau
- cod cyfrifiadur maleisus
- neu niwed o fath arall a allai achosi difrod i’ch system gyfrifiadurol
Ni ddylech gamddefnyddio'r gwasanaeth hwn drwy gyflwyno’n fwriadol firysau, trojans, worms, logic bombs neu unrhyw ddeunydd arall maleisus neu sy’n niweidiol i dechnoleg. Ni ddylech geisio cael mynediad heb awdurdod at y gwasanaeth hwn, y system lle caiff ei storio nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth. Ni ddylech ymosod ar y wefan hon drwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth neu ymosodiad gwrthod gwasanaeth a ddosbarthwyd.
Nodi gwybodaeth bersonol sensitif
Mae’r gwasanaeth ar-lein hwn yn cynnwys nifer o feysydd testun rhydd lle’ch gwahoddir i nodi gwybodaeth bersonol sensitif. Os byddwch yn rhoi gwybodaeth am eich:
- credoau crefyddol
- cyfeiriadedd rhywiol neu’ch bywyd rhywiol
- tarddiad hiliol neu'ch tarddiad ethnig
- barnau gwleidyddol
- credoau crefyddol neu’ch credoau athronyddol
- aelodaeth undeb llafur
- data genetig neu ddata biometrig
- data am eich iechyd
rydych yn rhoi caniatâd inni brosesu'r wybodaeth hon er mwyn inni allu ymdrin â’ch cais. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn casglu a storio eich data personol, gweler y polisi preifatrwydd.
Ymwrthodiad
Er ein bod yn ymdrechu i gadw gwybodaeth yn gyfredol, nid ydym yn darparu unrhyw warantau, amodau neu sicrwydd y bydd:
- yn gyfredol
- yn ddiogel
- yn gywir
- yn gyflawn
- yn rhydd o fygiau neu feirysau
Nid ydym ni'n cyhoeddi cyngor. Dylech gael cyngor proffesiynol neu gyngor arbenigol cyn gwneud unrhyw beth yn seiliedig ar y wybodaeth yn y gwasanaeth. Nid ydym yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a all ddeillio o ddefnyddio'r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn cynnwys:
- unrhyw golledion uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol
- unrhyw golled neu ddifrod a achoswyd gan gamweddau sifil (‘tort’, yn cynnwys esgeuluster), torri amodau contract neu fel arall
- Defnyddio’r gwasanaeth hwn, GOV.UK ac unrhyw wefannau sydd â dolenni i neu o’r wefan
- methu â defnyddio’r gwasanaeth hwn, GOV.UK ac unrhyw wefannau sydd â dolenni i neu o’r wefan
Mae hyn yn berthnasol os oedd y golled neu’r difrod yn rhagweladwy, wedi codi wrth i’r broses arferol fynd rhagddo, neu os oeddech wedi ein cynghori y gallai ddigwydd Mae hyn yn cynnwys (ond nid yw’n gyfyngedig) i golli eich:
- incwm neu refeniw
- cyflog, budd-daliadau neu daliadau eraill
- busnes
- elw neu gontractau
- cyfleoedd
- cynilion a ragwelwyd
- data
- ewyllys da neu’ch enw da
- eiddo diriaethol
- eiddo anniriaethol, yn cynnwys colled, llygredd neu ddifrod o ddata neu unrhyw system gyfrifiadurol
- gwastraff o amser rheolwyr neu amser swyddfa
Efallai y byddwn yn parhau i fod yn atebol am:
- farwolaeth neu anaf personol sy’n codi o’n hesgeuluster
- camliwio twyllodrus
- unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu dan y gyfraith berthnasol
Cysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth.